Bangor
Cymdeithas entomolegol wedi’i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor yw AES@Bangor (neu AES@B fel y'i gelwir ym Mangor). Mae’r Gymdeithas yn gysylltiedig o’r cychwyn â Chymdeithas yr Entomolegwyr Amatur, sef elusen gofrestredig. Yn wahanol i lawer cymdeithas prifysgol mae’n agored i bawb, o fewn yr ardal leol a thu hwnt.
Ffurfiwyd AES@Bangor er cof am yr Athro Michael Majerus – gŵr oedd ganddo frwdfrydedd angerddol am fyd natur, a’r ddawn o allu trosglwyddo’r brwdfrydedd hwnnw i eraill. Gweithiodd Mike yn arbennig ar drychfilod, ac roedd yn gefnogwr o’r AES ar hyd ei fywyd.
Mae AES@Bangor yn adlewyrchu amcanion yr AES – i ddarparu mynedfa i bawb sydd â diddordeb mewn trychfilod ac anifeiliaid cyffelyb.
Cysylltwch â Ni
Kara Majerus: aes-bangor@amentsoc.org